Cymraeg | English
Telerau ac Amodau   
   

 

  • Cerdyn Sampl - Fe fydd un cerdyn yn cael in gyflenwi yn rhad ac am ddim, fodd bynnag codir tal a £2.50 yr un am fwy o samplau. On ydych yn archebu cardiau byddwn yn tynu y gost am fwy o samplau hyd £10.
  • Cylluniau - Mae pob archeb yn cael ei wneud yn briodol i pob cwsmer ac gwneir pob cerdyn yn unigol, felly weithiau bydd peth gwahaniaeth rhwng rhai cardiau.
  • Iaith - Gellir gwneud cardiau yn y iaith o eich dewis chi (ond rhaid defnyddio llythrenau yr un fath ar wyddor Cymraeg neu Saesneg. e.e. Ffrangeg). Os ydych angen y gwasanaeth yma byddwn angen copi or geiriau.
  • Argraffu - Byddwn yn darparu gwahanol fathau or argraffau i chi ddewis o. Bydd hyn yn cael ei argraffu gyda inc du, os nad ydych eisiau yn wahanol. Ar hyn o bryd ni ellir argraffu mewn inc lliw aur, ond gobeithio y gallwn wnued hyn yn y dyfodol agos.
  • Proflen - Rydym yn annog chi i drafod cynllun eich cardiau gyda ni, ac rydym yn daparu cerdyn prawf i chi er mwyn gwneud ym siwr bod y cynllun a'r geiriau yn gywir. Mae'n hanfodol bwsig eich bod yn gwneud yn siwr bod y cerdyn yn iawn. Pan rydych yn hapus gyda y cerdyn prawf a'r geiriau arno, rhaid ei lofnodi a'i ddyddiad a'i yrru yn ol i Cardiau Cregennan, ynghyd a blaen dal o 50% o gost yr archeb (os mae hon yw'r math o daliad rydych yn ei ddewis). Dim ond ar ol i chi ddychwelyd y cerdyn prawf gyda llofnod y byddwn i yn dechrau ar yr archeb.
  • Newidiadau - Os ydych angen gwneud newidiadau ar ol i ni dderbyn y cerdyn prawf, efallai y byddwn yn gorfod codi tal ychwranegol.
  • Costau - Fe fydd yn dibynu ar eich gofynion mae prisiau yn dechrau o £1.95 i £4.20 am gerdyn gwahoddiad. Mae y prisiau yma wedi ei seilio ar y engreifftiau yn y portffolio. Mae y pris am "Drefn y Gwasanaeth"yn cynwys un tudalen wedi ei argraffu ar y pedair ochr. Os bydd angen mwy o dudalenau bydd tal ychwranegol o £1 y dudalen.
  • Hawlfraint - Efallai bydd angen cael caniatad i wneud copi o emynau sydd yn "Trefn y Gwasanaeth". Mae y tal am hyn tua £10 - £25.
  • Postio - Mae pob archeb yn cael ei yrru i chi drwy Archeb Arbennig y Post Brenhinol sydd yn cynwys yswiriant ac sydd angen llofnod. Codi'r tal am hyn o £10, ond os ydy eich tal i gyd yn fwy na £350 ni chod'r tal. Fe ddanfonir y cardaiu i chi ar amser a gytunir gan chi y cwsmer a Cardiau Cregennan.
  • Taliadau - Unwaith yr ydych chi wedi dewis i fynd ymalaen i archebu cardaiu, gellir gwneud taliadau yn y modd carlynol. (Taliadau trwy arian parod neu siec yn unig).
    1. Gellir talu blaendal o 50% pan rydych yn arwyddo a dychwelyd y cerdyn prawf. Bydd rhaid talu y gweddill cyn y dyddiad y danfonir y cardiau i chi.
    2. Pan rydych yn archebu gallwch dalu yn llawn. Os ydych yn archebu o leiaf 4 mis ymalen llaw byddwch yn derbyn gostyngiad pris o 15% gyda yr opsiwn yma.
    3. Os ydych yn archebu gyda amser o llai na 2 fis i'r amser danfon bydd rhaid talu yn llawn ar amser archebu. Ni fydd gostyngiad yn y pris ac efallai bydd angen gwneud tal ychwanegol er mwyn sicrhau fod yr archeb yn cael ei gwblhau ar amser.

    Ni fyddwn yn dechrau ar unrhym archeb nes bydd blaen dal neu taliad llawn wedi ei wneud.

  • Canslo - Yn affodus weithiau bydd yn rhaid canslo yr archeb.
    1. Am archebion sy'n cael ei canslo mwy na 28 diwrnod cyn y dyddiad danfon byddwn yn ad dalu hanner y blaen dal.
    2. Am archebion sy'n cael ei canslo llai na 28 diwrnod o'r dyddiad danfon ni fydd dim ad daliad yn cael ei wneud.

Jane Lloyd
Cardiau Cregennan Cards
Cregennan Farm,
Arthog,
Gwynedd,
Wales
LL39 1LZ
(01341) 250097


   
   Cardiau Cregennan Cards
(01341) 250097
   Cregennan Farm, Arthog, Gwynedd, Wales LL39 1LZ

   
Adref | Cefndir | Cardiau | Prisiau | Telerau | Cysylltu   


Dylunio gan @mser. ©2008 Cardiau Cregennan Cards - All rights reserved.